Mae Four Cymru yn asiantaeth greadigol ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg), ddeinamig ac arloesol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac Aberystwyth, gyda swyddfeydd ehangach y grŵp yn Llundain, Sheffield a’r Dwyrain Canol. Rydym yn arbenigo mewn darparu datrysiadau dylunio arloesol ar gyfer ystod amrywiol o gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae ein tîm yn angerddol am greadigrwydd, cydweithredu, a gwthio ffiniau dylunio, gan ddefnyddio'r offer a’r methodolegau creadigol diweddaraf, gan gynnwys y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan ddefnydd cyfrifol o dechnolegau AI sy'n dod i'r amlwg.

Rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg Canolradd talentog a phrofiadol i ymuno â'n tîm creadigol. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol bortffolio cryf sy'n arddangos ei allu i greu dyluniadau deniadol ar draws sawl platfform. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n uwch-weithwyr creadigol i ddatblygu a gweithredu cysyniadau dylunio sy'n bodloni anghenion ein cleientiaid ac yn rhagori ar eu disgwyliadau. Byddwch hefyd yn berson hunan-gychwynnol llawn cymhelliant gydag uchelgeisiau i ehangu eich sgiliau a dysgu a datblygu'n barhaus.

 

Gofynion:

Gradd Baglor mewn Dylunio Graffeg neu faes cysylltiedig.

3-5 mlynedd o brofiad dylunio graffeg proffesiynol, o fewn lleoliad asiantaeth yn ddelfrydol.

Lefel uchel o hyfedredd mewn meddalwedd Adobe Creative Suite (Photoshop, Illustrator, InDesign).

Gwybodaeth ymarferol dda o feddalwedd Microsoft Office.

Dealltwriaeth gref o deipograffeg, theori lliw, a dylunio cynlluniau.

Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.

Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Sylw cryf i fanylion a llygad craff am estheteg.

Portffolio yn arddangos ystod o sgiliau dylunio ac atebion creadigol.

 

Sgiliau Dymunol:

Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda phrofiad profedig o ddylunio'n ddwyieithog.

Profiad gyda graffeg symud a golygu fideo.

Gwybodaeth am dueddiadau cyfredol a phrofiad o ddefnyddio offer AI newydd sy'n cynnig manteision i'r diwydiannau creadigol.

Gwybodaeth am egwyddorion dylunio gwe a phrofiad y defnyddiwr (UX).

Yn gyfarwydd ag offer rheoli prosiectau.

 

Cyfrifoldebau Allweddol:

Datblygu a gweithredu cysyniadau creadigol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys brandio, argraffu, digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Cydweithio â'r tîm creadigol i sicrhau bod dyluniadau'n cyd-fynd ag amcanion cleientiaid a chanllawiau brandiau.

Cynhyrchu gwaith dylunio o ansawdd uchel o'r cysyniad i'r cyflawni terfynol.

Cymryd rhan mewn sesiynau taflu syniadau a chyfrannu syniadau arloesol.

Rheoli prosiectau lluosog ar yr un pryd a chwrdd â therfynau amser tynn.

Meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau ac arferion gorau'r diwydiant.

Sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd

 

Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth:

Rydym yn falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym yn byw ynddo. Rydym yn ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred. I'r graddau sy'n bosibl, rydym yn tynnu'r wybodaeth hon o CVs sy’n cael eu cyflwyno i reolwyr yn ystod y broses asesu.

 

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy'r ddolen isod -

https://fouragency.peoplehr.net/Pages/JobBoard/Opening.aspx?v=193d28a3-376d-4c7c-bdfe-e86d798f7868

Hoffem ddiolch i’r holl ymgeiswyr am eu diddordeb ond dim ond y rhai sy’n cael eu gwahodd i gael cyfweliad y byddwn yn cysylltu â nhw.

Nid ydym yn derbyn CV gan asiantaethau.

Lleoliad: Caerdydd neu Aberystwyth